Ymestyn: Ymarferion ar gyfer bysedd, dwylo ac arddyrnau (ar gyfer arthritis a phoen yn y cymalau)
Versus Arthritis Versus Arthritis
27.1K subscribers
81 views
0

 Published On Dec 8, 2023

Yn y fideo ymestyn ysgafn hwn y gallwch ei ddilyn a’i ddynwared bydd Sylvia, sy’n byw gydag arthritis, yn ymuno gyda’r ffisiotherapydd Jay Milomo. Gyda’i gilydd maen nhw’n dangos ymarferion caiff eu hargymell yn gyffredin ar gyfer bysedd, dwylo ac arddyrnau i bobl sy’n byw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol eraill. Rydym yn defnyddio ein bysedd, ein dwylo ac ein harddyrnau ar gyfer llu o dasgau dydd i ddydd, felly mae’n bwysig ein bod ni’n dal ati i’w symud a’u cryfhau.

Mae’r ymarferion hyn wedi’u cynllunio ichi eu rhoi ar waith yn eich bywyd o ddydd i ddydd, gallwch eu cyflawni’n unrhyw le a defnyddio eitemau dydd i ddydd. Bydd angen darn o bapur cegin neu dywel bach arnoch chi.

Mae’r gyfres hon yn rhan o ‘Let’s Move’, sef rhaglen i bobl sydd ag arthritis ac sy’n awyddus i symud mwy. Cofrestrwch heddiw i dderbyn ein newyddlen rhad ac am ddim sydd â’r holl gynnwys diweddaraf i’ch helpu i gadw’n heini mewn ffordd sy’n gweddu ichi: https://action.versusarthritis.org/pa...

show more

Share/Embed