Ymestyn y corff cyflawn: Ymarfer gyda’r nos (ar gyfer arthritis a phoen yn y cymalau)
Versus Arthritis Versus Arthritis
27.4K subscribers
258 views
0

 Published On Dec 8, 2023

Ymunwch gyda’r ffisiotherapydd Jay Milomo ar gyfer sesiwn ymestyn arbennig a braf gyda’r nos. Yn ystod y sesiwn meddwlgarwch hon lle byddwch yn dilyn ac yn dynwared Jay Milomo, byddwch yn ymestyn eich corff yn ysgafn gan ganolbwyntio ar eich anadlu, a bydd yn help ichi dawelu’ch meddwl ar ddiwedd y dydd. Gallwch gyflawni’r symudiadau ar gadair, soffa neu wely. Bydd Jay yn eich arwain drwy ymarferion caiff eu hargymell yn gyffredin ar gyfer pobl sy’n byw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol eraill gan gynnwys ymarferion ysgafn ar gyfer y gwddw, y breichiau a’r coesau.

Mae’r ymarferion hyn wedi’u cynllunio ichi eu hymgorffori yn eich trefn arferol ddyddiol, gallwch eu cyflawni’n unrhyw le. Bydd angen tywel bach arnoch chi.

Mae’r gyfres hon yn rhan o ‘Let’s Move’, sef rhaglen i bobl sydd ag arthritis ac sy’n awyddus i symud mwy. Cofrestrwch heddiw i dderbyn ein newyddlen rhad ac am ddim sydd â’r holl gynnwys diweddaraf i’ch helpu i gadw’n heini mewn ffordd sy’n gweddu ichi: https://action.versusarthritis.org/pa...

show more

Share/Embed